If you've registered on race-nation.co.uk before, sign in here
Penwythnos Hyfforddiant Rhedeg Llwybrau Diarffordd
Dyddiad – Dydd Gwener 23ain – Dydd Sul 25ain o Fawrth 2021
Gyda Lowri Morgan a Gwesteion a'r Trail Events Co.
Rydym yn gyffrous iawn o allu cyflwyno ein penwythnosau hyfforddi rhedeg, i gyd yn y Gymraeg. Gwnewch bopeth yn Gymraeg ... gan gynnwys rhedeg!
Ymunwch â ni am ddeuddydd (2 noson) o redeg llwybrau, dosbarth meistr, sesiynau hyfforddi a seminarau yn cael eu harwain gan y rhedwr a'r anturwr Lowri Morgan a thîm The Trail Events Co.
Mae Lowri yn redwr ultras eithafol o'r radd flaenaf. Mae hi wedi croesi swamps ac afonydd yn yr Amazon yn llawn piranhas; wedi brwydro drwy stromydd eira a gwyntoedd rhewllyd i gwblhau ac ennill yr Ultra 6633 yn yr Arctig. Mae wedi ennill gwobrywon BAFTA am ei gwaith cyflwyno ar y teledu ac mae’n cyflwyno’n rheolaidd ar y BBC ac S4C.
Bydd y gwersyll hyfforddi penwythnos o hyd yn ddelfrydol i'r rhai sydd am wella eu rhedeg, eu hyfforddi, magu hyder a byddwn yn teilwra i gwrdd a’ch gofynion gymaint ag y gallwn.
Bydd Lowri Morgan yn dod â rhai ffrindiau gyda hi i gynnig cyngor i chi yn amrywio o pilates i faeth
Wedi'i lleoli yng Nghanolfan Awyr Agored Rhyd Ddu, cewch gyfle i archwilio rhai o lwybrau anhygoel Eryri.
Dros y penwythnos byddwn yn ymdrin â:
Goresgyn anafiadau
Ceisio dioddefaint drwy redeg rasys ultra
Hyfforddiant – gwersi a ddysgwyd
Cymhellion rhedwr pellter hir
Cofleidio methiant / Ofn methu
Dyfalbarhad a phenderfyniad
Deall potensial
Grym eich meddwl
Dewrder a bod yn feiddgar
Pwysigrwydd Cydnerthedd
Y meddwl yn drech na’r milltiroedd
Dycnwch a dyfalbarhad ar ultra
Gwres ac oerfel
Bydd llety yng Nghanolfan Awyr Agored, Bunkhouse Rhyd Ddu gyda brecwast, cinio a phrydau nos wedi eu cynnwys. Ar ôl i chi gofrestru, cewch holiadur i'w llenwi a fydd yn rhoi mwy o syniad i ni ymlaen llaw am yr hyn rydych yn gobeithio ei gael o'r profiad/cwrs ac yna amserlen fanylach yn nes at y dyddiad.
Bydd arnoch angen-
Rhedeg dillad am 2 ddiwrnod (efallai y bydd 3-5 sesiwn wahanol dros y penwythnos)
Haenau o ddillad fydd yn atal y dwr
Esgidiau rhedeg llwybr
Haenau ychwanegol
Tortsh Pen
Byddwch yn cyrraedd ar y dydd Gwener am 5pm a gadael ddydd Sul am 5pm. Bydd y penwythnos yn llawn sgyrsiau/trafodaethau, hyfforddiant, rhedeg llwybrau ac wrth gwrs hwyl.
Byddwch yn mwynhau golygfeydd anhygoel ar y rhedfeydd tywysiedig hyn. Gyda dringfeydd caled a disgyniadau technegol byddwn yn dysgu popeth y mae angen i chi ei wybod am redeg llwybrau a sut i aros yn ddiogel ar y llwybrau.
Bydd y penwythnos yn addas i unrhyw un sydd am wella ei rhedeg, magu hyder a gwella’i dychnwch a dyfalbarhad ar y llwybrau a chyfle gwych i ddysgu.
Pris £249 (Prydau yn gynwysiedig)
Am fwy o wybodaeth peidiwch â phetruso cysylltu â ni ar sian@trailevents.co
www.trailevents.co www.lowrimorgan.co.uk www.trailrunningwales.co.uk
If you've registered on race-nation.co.uk before, sign in here